Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 15 Mehefin 2021

Amser y cyfarfod: 13.30
 


6(v5)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.

Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod aelodau o’r cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI3>

<AI4>

3       Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu

(60 munud)

</AI4>

<AI5>

4       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau sy’n helpu pobl i wella o COVID-19

(45 munud)

</AI5>

<AI6>

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 5-6 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:

(30 munud)

</AI6>

<AI7>

5       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021

NDM7705 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2021.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro

</AI7>

<AI8>

6       Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021

NDM7709 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2021.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro

</AI8>

<AI9>

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 7-8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:

(15 munud)

</AI9>

<AI10>

7       Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021

NDM7706 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mai 2021.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro

</AI10>

<AI11>

8       Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021

NDM7707 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mai 2021.

Dogfennau Ategol

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro

</AI11>

<AI12>

9       Dadl: Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU

(60 munud)

NDM7708 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cytuno nad yw ymateb Llywodraeth y DU i Gronfa Codi’r Gwastad a chyllid olynol yr UE yn ehangach yn gwarantu na fydd Cymru yn derbyn yr un geiniog yn llai a’i fod yn ymosodiad amlwg ar ddatganoli yng Nghymru.

2. Yn cytuno bod peilot Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ar gyfer 2021-22 yn cynrychioli toriad cyllid sylweddol i Gymru oherwydd byddai Llywodraeth Cymru wedi derbyn o leiaf £375m y flwyddyn ar ffurf cronfeydd strwythurol yr UE.

3. Yn nodi bod y toriad hwn yn y cyllid sydd ar gael yn fygythiad i swyddi a gwasanaethau yng Nghymru.

4. Yn rhannu’r pryderon a godwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch lefel y cyllid sydd ar gael a’r broses ar gyfer cyflawni a fynegwyd yn y dystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig mewn perthynas â chynigion Llywodraeth y DU. 

5. Yn nodi disgrifiad y Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol y DU annibynnol o gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Codi’r Gwastad fel ‘centrally controlled funding pots thinly spread across a range of initiatives’.

6. Yn cytuno nad yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno nac ennill mandad i dorri cronfeydd olynol yr UE i Gymru na thanseilio’n unochrog ddatganoli yng Nghymru.

7. Yn credu y dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru a bod rhaid i Lywodraeth y DU roi’r gorau i ddefnyddio Deddf y Farchnad Fewnol yn y fath fodd ag sy’n golygu bod llai o lais gan Gymru.

Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU: prospectws 2021-22 (Saesneg yn unig)

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor Materion Cymreig - 27 Mai 2021 (Saesneg yn unig)

Adroddiad Blynyddol Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol y DU 2021 (Saesneg yn unig)

Deddf y Farchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020(Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cronfa ffyniant gyffredin y DU a'i bwriad i leihau anghydraddoldebau rhwng cymunedau ledled y DU.

2. Yn cytuno na ddylai cyllideb flynyddol cronfa ffyniant gyffredin y DU fod yn llai na ffrydiau ariannu'r UE a'r DU y mae'n eu disodli.

3. Yn croesawu rôl llywodraeth leol yn y broses o ddefnyddio cronfa ffyniant gyffredin y DU. 

4. Yn galw ar Lywodraeth Ei Mawrhydi, awdurdodau lleol a gweinyddiaethau datganoledig i ddatblygu system i olrhain a mesur effaith a chanlyniadau dymunol y gronfa.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnwys pwyntiau newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod dull Llywodraeth y DU o ymdrin â'r meini prawf blaenoriaethu ar gyfer y cronfeydd hyn yn anghyson â'r dull o ymdrin â chyllid a ddarparwyd gan yr UE yn flaenorol a oedd yn seiliedig ar angen.

Yn galw am dryloywder gan Lywodraeth y DU ar y meini prawf blaenoriaethu ar gyfer y cronfeydd hyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ardal yng Nghymru yn colli allan ar gyllid.

Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gerbron y Senedd asesiad effaith sy'n dangos effaith y trefniadau ariannu hyn ar ddosbarthu cyllid ledled Cymru a gwneud penderfyniadau datganoledig yng Nghymru.

</AI12>

<AI13>

10    Cyfnod pleidleisio

 

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 16 Mehefin 2021

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>